Hanes yr adeilad

Mae yna lawer o gyfrinachau’n gorwedd y tu hwnt i ffasâd tawel y drws du enwog.
Gwelodd Rhif 10 derfysgoedd tanbaid, protestio brwd a gweithgareddau digon syfrdanol.
Dyma bencadlys Llywodraeth Prydain trwy ddau Ryfel Byd.
O fewn y muriau hyn datblygwyd polisïau arloesol a chadeiriodd rhai o arweinwyr mwyaf Prydain gyfarfodydd sydd wedi newid cwrs y byd.
Mae’n swyddfa brysur ac yn weithle i’r Prif Weinidog a’r staff a gyflogir i’w gynorthwyo yn ei waith.
Gymaint â dim, mae hefyd yn gartref i’r Prif Weinidog a’i deulu.
Ym 1730 y cychwynnodd cysylltiad Stryd Downing a swyddfa’r Prif Weinidog.
Gwrthododd y Prif Weinidog cyntaf oll, Robert Walpole, â derbyn y ty yn anrheg bersonol. Mynnodd yn lle hynny y dylai gael ei ddefnyddio gan “Brif Weinidogion y Trysorlys” i’r dyfodol. Dyna pam mae’r ty yn dal i gael ei ddefnyddio heddiw gan Gordon Brown.
Ailwampiwyd y ty yn sylweddol yn ystod ei oes er mwyn ei droi yn breswylfa urddasol fyddai’n gartref teilwng i wleidydd mwyaf pwerus y wlad.
Darllenwch ragor i gael gwybod cyfrinachau pellach…
Adrannau
Aelwyd Newydd i’r Prif Weinidog, 1730-42
Marwolaeth a Dirywiad, 1807-76
Sbriwsio Stryd Downing, 1837-1937




