Hanes Prif Weinidogion Prydain

Hyd heddiw mae 52 o ddynion ac un wraig wedi cerdded trwy ddrysau Rhif 10 Stryd Downing yn eu swyddogaeth fel Prif Weinidog Prydain.
Yn ystod y cyfnod hwn rhoddwyd allweddi un o ddrysau ffrynt enwocaf y byd i amrywiaeth anhygoel o gymeriadau.
Yn yr adran hon byddwn yn edrych yn fanwl ar yr holl Brif Weinidogion a fu’n llwyddiannus neu’n waradwyddus, yn fethiannau byrhoedlog neu’n arloeswyr hanes.
Byddwn yn canolbwyntio ar fagwraeth, gyrfa, bywyd teuluol a marwolaeth y gwahanol brif weinidogion hyn. Rydym hefyd wedi cynnwys y dyfyniadau cofiadwy ganddynt, neu’r ffeithiau difyr amdanynt, sy’n aros yn y cof.
Rhestrir y prif weinidogion yn ôl trefn amseryddol y dyddiad yr oeddent wedi cychwyn gyntaf ar eu swyddi. Bu yna hefyd ambell gyfnod, ychydig oriau neu ddyddiau gan fwyaf, pan nad oedd y wlad yn swyddogol yng ngofal unrhyw un. Rydym yn egluro’r cyfnodau hyn o dan Y Dyddiau Coll (yn Saesneg).
Mae manylion bywgraffyddol y Prif Weinidog cyfredol, Gordon Brown, i’w gweld yma.
Cofiwch ymweld hefyd â dalennau Hanes 10 Stryd Downing.
Cofiwch ymweld hefyd â’n hadrannau hanesyddol difyr
Prif Weinidogion sydd wedi torri recordiau (yn Saesneg)
Prif Weinidogion y Ddeunawfed Ganrif, eu cyfnod yn y swydd a’u plaid wleidyddol
Syr Robert Walpole 1721-42 Chwigiaid
Spencer Compton, Iarll Wilmington 1742-3 Chwigiaid
Henry Pelham 1743-54 Chwigiaid
Thomas Pelham-Holles, Dug Newcastle 1754-6 a 1757-62 Chwigiaid
William Cavendish, Dug Devonshire 1756-7 Chwigiaid
John Stuart, Iarll Bute 1762-3 Torïaid
George Grenville 1763-5 Chwigiaid
Charles Wentworth, Ardalydd Rockingham 1765-6 a 1782 Chwigiaid
Iarll Chatham, William Pitt ‘Yr Hynaf’ 1766-8 Chwigiaid
Augustus Henry Fitzroy, Dug Grafton 1768-70 Chwigiaid
Yr Arglwydd North 1770-82 Torïaid
William Petty, Iarll Shelburne 1782-3 Chwigiaid
William Bentinck, Dug Portland 1783 a 1807-9 Chwigiaid
Prif Weinidogion y Bedwaredd Ganrif ar Bymtheg, eu cyfnod yn y swydd a’u plaid wleidyddol
William Pitt ‘Yr Ieuaf’ 1783-1801 a 1804-6 Torïaid
Henry Addington 1801-4 Torïaid
William Wyndam Grenville, Yr Arglwydd Grenville 1806-7 Chwigiaid
Spencer Perceval 1809-12 Torïaid
Robert Banks Jenkinson, Iarll Lerwpl 1812-27 Torïaid
Frederick Robinson, Is-iarll Goderich 1827-8 Torïaid
Arthur Wellesley, Dug Wellington 1828-30 Torïaid
William Lamb, Is-iarll Melbourne 1834 a 1835-41 Chwigiaid
Syr Robert Peel 1834-5 a 1841-6 Torïaid
Iarll Russell 1846-51 a 1865-6 Rhyddfrydwyr
Iarll Derby 1852, 1858-9 a 1866-8, Ceidwadwyr
Is-iarll Palmerston 1855-8 a 1859-65 Rhyddfrydwyr
Benjamin Disraeli 1868 a 1874-80 Ceidwadwyr
William Ewart Gladstone 1868-74, 1880-85, 1886 a 1892-94 Rhyddfrydwyr
Robert Gascoyne-Cecil, Ardalydd Sailsbury 1885-6, 1886-92 a 1895-1902 Ceidwadwyr
Iarll Rosebery 1894-5 Rhyddfrydwyr
Prif Weinidogion yr Ugeinfed Ganrif, eu cyfnod yn y swydd a’u plaid wleidyddol
Arthur James Balfour 1902-5 Ceidwadwyr
Henry Campbell-Bannerman 1905-8 Rhyddfrydwyr
Herbert Henry Asquith 1908-16 Rhyddfrydwyr
David Lloyd George 1916-22 Rhyddfrydwyr
Andrew Bonar Law 1922-3 Ceidwadwyr
Stanley Baldwin 1923, 1924-9, 1935-7 Ceidwadwyr
James Ramsay MacDonald 1924 a 1929-35 Llafur
Arthur Neville Chamberlain 1937-40 Ceidwadwyr
Syr Winston Leonard Spencer Churchill 1940-5 a 1951-5 Ceidwadwyr
Clement Richard Attlee 1945-51 Llafur
Anthony Eden 1955-7 Ceidwadwyr
Harold Macmillan 1957-63 Ceidwadwyr
Syr Alec Douglas-Home 1963-4 Ceidwadwyr
Harold Wilson 1964-70 a 1974-6 Llafur
Edward Heath 1970-4 Ceidwadwyr
Margaret Thatcher 1979-90 Ceidwadwyr




